Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 25 Chwefror 2021
Amser:
09.15 -
12.13
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11111
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Lynne Neagle AS (Cadeirydd) Dawn Bowden AS Hefin David AS Suzy Davies AS Siân Gwenllian AS Laura Anne Jones AS |
Tystion: |
Luke Sibieta, Cymrawd Ymchwil yn y Sefydliad Astudiaethau Cyllid a’r Sefydliad Polisi Addysg Yr Athro Chris Taylor, Athro Addysg a Chyfarwyddwr Academaidd y Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK) - Prifysgol Caerdydd Gareth Evans, Cyfarwyddwr Polisi Addysg, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant Yr Athro Dylan Jones, Dirprwy Is-Ganghellor a Deon Gweithredol yr Athrofa, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant |
Staff y Pwyllgor: |
Llinos Madeley (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Sian Thomas (Ymchwilydd) Phil Boshier (Ymchwilydd) Catherine McKeag (Rheolwr Ymgysylltu â Dinasyddion) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.
1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
1.4 Ni chafwyd ymddiheuriadau. Nododd y Cadeirydd y byddai angen i Suzy Davies AS adael y cyfarfod am 11am.
2 COVID-19: addysg statudol
2.1 O dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Hefin David AS fod gan ei ferch Anghenion Dysgu Ychwanegol.
2.2 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Luke Sibieta a’r Athro Chris Taylor ar faterion yn ymwneud ag effaith COVID-19 ar blant a phobl ifanc.
2.3 Cytunodd Luke Sibieta y byddai’n rhoi unrhyw dystiolaeth ystadegol i’r Pwyllgor sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â phresenoldeb plant sy'n agored i niwed yn yr ysgol, gan gynnwys y rheini ag anghenion dysgu ychwanegol yn ystod y cyfnodau o gyfyngiadau symud, ac a oedd profiadau wedi amrywio ledled Cymru.
3 COVID-19: addysg statudol
3.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Gareth Evans a’r Athro Dylan Jones
ar faterion yn ymwneud ag effaith COVID-19 ar blant a phobl
ifanc.
4 Papurau i’w nodi
4.1 Cafodd y papurau eu nodi.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
5.1 Derbyniwyd y
cynnig.
6 COVID-19: Trafod y dystiolaeth
6.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiynau
blaenorol.
7 COVID-19: y diweddaraf ynghylch ymgysylltu â myfyrwyr prifysgol
7.1 Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad ar ganfyddiadau'r grwpiau ffocws rhithwir a gynhaliwyd gyda myfyrwyr. Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r wybodaeth yn cael ei defnyddio i lywio'r sesiynau tystiolaeth gyda chynrychiolwyr o addysg uwch ac addysg bellach. a drefnwyd ar gyfer 11 Mawrth 2021.